Cyngor Cymuned
Community Council
Llandyrnog
Y wefan ar gyfer digwyddiadau a gwybodaeth ar gyfer Llandyrnog a’r cylch, Sir Ddinbych. The site for events and information in and around Llandyrnog, Denbighshire.
Croeso i wefan Cyngor Llandyrnog Mae cymuned Llandyrnog wedi'w leoli yng nghanol Dyffryn Clwyd ac mae'n ymgorffori hen blwyf Llangwyfan, pedair milltir o dref hanesyddol Dinbych. Mae afon droellog araf Clwyd yn ffurfio un ffin o'r plwyf gyda bryniau hyfryd Clwyd, Pen y Cloddiau a Moel Arthur yn ffurfio'r llall. Mae Aberchwiler yn gorwedd i'r gogledd gyda Llanychan a Llangynhafal i'r de. Mae'n unigryw yn ei groeso dwyieithog cynnes a chyfeillgar gyda nifer o weithgareddau ar gyfer pob oedran yn cael ei gynnal yn y Pentref. Mae'r gymuned yn ffodus bod ganddi ystod eang o sefydliadau sy'n darparu ar gyfer anghenion diwylliannol a chwaraeon o bob oed (gweler y rhestr o sefydliadau). Daw anghenion a chyflogaeth o ddydd i ddydd gan y Cigydd Lleol - (Clwyd Williams), Swyddfa'r Post a thair tafarn, (Golden Lion, Kinmel Arms a White Horse), lleoliad priodas plasty (Pentre Mawr), gweithgareddau amaethyddol, yr Adeiladwyr lleol a sefydliad Highfield Park. Yn y gymuned mae Ysgol Bryn Clwyd ynghlwm â’r Neuadd Bentref, y Cocoa Rooms, Capel Y Dyffryn, Eglwysi St Tyrnog a St Cwyfan a chae chwarae sylweddol o'r enw Cae Nant sydd â chae Pêl-droed a phafiliwn gydag ystafelloedd newid, maes chwarae astro ac offer chwarae a ffitrwydd modern. Mae Llwybyr Tyrnog a sawl llwybr lleol yn arlwyo cerddwyr yr ardal. Gweithgareddau eraill sy'n cael eu cynnal yn flynyddol yw'r Sioe Flodau a Chynhyrchu Lleol a'r Eisteddfod. Sefydliadau yn y Gymuned: Clwb Crefft Clwb Dydd Mawrth Clwb Llyfrau Sefydliad Merched Bingo Clwb Celf Trefoil Cymdeithas Hanes Brownies Undeb y Mamau a ‘Messy Church’ Seryddiaeth Cyngor Cymuned Peldroed Gaeaf Cynghrair Peldroed yr Haf