Cyngor Cymuned
Community Council
Llandyrnog
Y wefan ar gyfer digwyddiadau a gwybodaeth ar gyfer Llandyrnog a’r cylch, Sir Ddinbych. The site for events and information in and around Llandyrnog, Denbighshire.
Am Llandyrnog Pentref mawr yn Sir Ddinbych, Cymru, yw Llandyrnog, yn nyffryn Afon Clwyd, tua 3 milltir (4.8 km) o Ddinbych a 5 milltir (8.0 km) o Rhuthun. Mae gan Llandyrnog eglwys leol, St. Tyrnog's, a capel bach Cymraeg. Mae yna ddau fwyty tafarn hefyd, sef The Kinmel Arms a The White Horse a thafarn, y Golden Lion. Yng nghanol y pentref mae siop cigyddion a siop bentref a Swyddfa'r Post. Mae gan Llandyrnog hefyd ysgol gynradd fach, Ysgol Bryn Clwyd, sy'n dysgu trwy gyfrwng y Saesneg. Mae hen Ysbyty'r Gist, milltir (1.6 km) i ffwrdd yn Llangwyfan, bellach yn ganolfan breswyl i oedolion ag anableddau dysgu. Mae gan y pentref gysylltiadau ffordd da efo Dinbych a phrif ffordd yr A541 ym Modfari, ac mae bysiau rhif 76 a 53 yn ein gwasanaethu. Mae yna glwb pêl-droed gweithgar iawn, Llandyrnog United, sydd ar hyn o bryd yn chwarae yn Adran 1 Cynghrair Cymru a chlwb cysylltiedig, Llandyrnog, sy'n chwarae yng Nghynghrair Haf Dyffryn Clwyd. Y Golden Lion yw cartref Clwb Pêl-droed Unedig Llandyrnog ac mae'r ddau dîm cynghrair gaeaf yn dod yn ôl i'r Goldie i gael bwyd a diodydd ar ôl y gêm fel mae tîm cynghrair yr haf. Y Golden Lion sy'n cynnal y rhan fwyaf o'r gemau chwaraeon teledu / Sky. Cynhelir sawl digwyddiad elusennol yma hefyd, tafarn lleol traddodiadol. Mae gan y pentref fynediad hawdd i’r ‘Clwydian Range’ a llwybr troed Offa’s Dyke. Yn edrych dros y pentref mae dwy gaer bryn o bwys archeolegol sef Penycloddiau a Moel Arthur. Mae gan Llandyrnog y sefydliad Methodistaidd hynaf ym Mro Clwyd sef Capel Dyffryn.